Croeso i wefan Sioe Frenhinol Cymru Ceredigion - ‘Sioe’r Cardis 2010’
Ceredigion yw sir nawdd Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru eleni. Mae’r system siroedd nawdd yn golygu ein bod fel Sir yn cael yr anrhydedd o westeio Sioe Frenhinol Cymru bob 13 mlynedd.
Ar hyn o bryd mae’r Sir wrthi’n ddiwyd yn trefnu llu o weithgareddau i godi arian tuag at gostau adeiladu Neuadd Fwyd newydd ar faes y Sioe.
Mae codi arian yn rhan annatod o system y siroedd nawdd, ond mae yna hefyd agwedd arall bwysig iawn. Y nod yw dod a’r Sir ynghyd fel bod pawb yn mwynhau’r profiad ac yn rhan o’r bwrlwm sy’n mynd law yn llaw a gwesteio Sioe Frenhinol Amaethyddol Cymru 2010.
Mae 2010 yn flwyddyn brysur i’r Sir gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei gynnal yn Llanerchaeron, Aberaeron a dymunwn bob llwyddiant i’r Urdd wrth iddynt baratoi i lwyfannu’r digwyddiad mawreddog yma yng Ngheredigion.
Llywydd - Dai Jones MBE, FRAgS, Llanilar
Llys Genhades - Teleri Jenkins-Davies